Lá Fhéile Pádraig sona duit

Ganol Mawrth 2024 – Caerdydd :

Stopiais y beic ar Sandon Street, rhwng hen walia llwyd a garw’r carchar a’r Atrium – adeilad modern, ffansi ag enw ffansi. Syllais yn syn ar wacter yr olygfa tua’r de. Doeddwn i ddim ar goll, mae’n chwaren bineal i gystal bob tamad ag un unrhyw gloman. A dwi di bod ma o’r blaen, …stalwm. 

Tasa hi’n ddydd Llun gwaith neu’n Sadwrn neu bnawn Sul siopa mi fasa’r lle’n orlawn o geir llonydd – yn y meysydd parcio ac ar y ffyrdd.  Saffach di seiclo’n gynnar fora Sul, fel heddiw. 

Unwaith, draw fan’cw rochr arall i Adam Street roedd na strydoedd:- Victoria, Ivor, Godfrey, Morgan, Taff, Garth a Duffryn. Dim ond lôn fawr y Sentral Linc sy’ yno rwan. Draw fan’cw roedd na dai teras. Llociau parcio gweigion sy’ yno rwan.

Newtown, Caerdydd 1901 [Map – Arolwg Ordnans]

Fan’cw hefyd roedd tafarn y Vulcan a adawyd fel rhyw ganiwt o ynys yn ceisio atal llif y chwalu a’r malu. Ond roedd hynny cyn ei dadfeilio’n ofalus i’w chodi eto fel ffenics fan arall i’n diddannu ni’r ‘genedl Sain Ffaganaidd’.

O leiaf mae Pellet Street yma o hyd. Nelais ati ac am ei hen Bont Haearn i groesi’r rheilffordd i’r ‘ochr draw’. Ond fel bron popeth hanesyddol yn y ddinas hon fe chwalwyd y bont honno. Felly croesais y tracia dros yr un newydd. Pont ddur, ddisglair, fodern sy’n glyfar iawn yn cynnwys grisiau sythion a hefyd rampiau ar ffurf cylchoedd. Mae’n ddigon i’n gwneud ni feicwyr yn chwil bitsh wrth eu reidio – petasan nhw’n caniatáu reidio drosti. Ond gan mai arwydd uniaith, Cyclists Dismount, sy’ yno, wfft i hwnnw a helter-sgelter amdani!

Y bont glyfar newydd dros y rheilffordd – sy’n gwneud hen ddeurodiwr yn chwil

Mae’r ochr draw wedi newid hefyd. Fa’ma oedd ‘Little Ireland’. Fa’ma oedd calon Newtown, un o’r “five towns of Cardiff”. Ardal a fu’n gartref i’r gweithwyr a ddenwyd yma gyntaf ddiwedd yr 1840au gan Ardalydd Bute i adeiladu’r dociau a’r rheilffyrdd. Daeth mwy, maes o law, i weithio’n y dociau, y ffowndrïoedd, a’r ffatrïoedd.

Gwyddelod oeddent a wthiwyd o’u gwlad pan yrrwyd y werin datws i’r tiroedd gwael, ymylol gan y tirfeddiannwyr: gwerin a ddioddefodd yn y Newyn Mawr pan fethodd y cnydau tatws. Miliwn yn marw; dwy filiwn yn ffoi. Balast o bobl oeddent a lenwai’r llongau a ddychwelai i Gaerdydd o Cork a Waterford rôl i rheiny hwylio yno â’r glo a’r nwyddau i fodloni chwant bonedd estron Iwerddon.

Adeiladodd Bute ardal o resdai ar gyfer y gweithwyr rhwng y rheilffordd newydd, iard Tyndall’s Fields, Stryd Tyndall, a ffos ddŵr y Docks Feeder. Gwasgwyd dros 200 o dai i strydoedd Rosemary, Ellen, North William, Pendoylan, a Roland.

Newtown a’r Bont Haearn [llun: itv.com]

Yno yn y tai gorlawn datblygodd cymuned glòs, fywiog yn ddiogel yn ei chornelyn – ei ghetto. Codwyd Eglwys Gatholig Sant Paul yno yn 1870, ynghyd a thŷ’r offeiriaid ac ysgol. Roedd tafarnau di-ri yno, ond fawr o angen plismon pan fo’r Fathers yn arglwyddiaethu a rheoli, yn ôl y sôn.

Erbyn yr 1960au datganodd y Cyngor bod y tai yn slymiau a bod angen eu dymchwel. Chwalwyd y tai a chwalwyd y gymuned. Gwasgarwyd y bobl i amrywiol stadau tai newydd cyrion Caerdydd. Dim sôn am eu hailgartrefu yno yn Newtown – lle da i weithdai newydd oedd yr hen dref. Dymchwelwyd yr eglwys yn 1970 – adeiladwyd y Central Link flyover dros ac ar ei gweddillion

Erbyn heddiw gweddnewidiwyd yr ardal eto fyth dan ysgogiad yr hap-ddatblygwyr sydd mor ddylanwadol wrth reibio canol Caerdydd. Yn codi fry mae tyrau o swyddfeydd sgleiniog, smart ochr yn ochr â mwy fyth o dyrau smart o stafelloedd i sdiwdants. Ac mae yno ambell lain bach o wyrddni (am y tro).

Eisoes mae tŵr fflatiau Tŷ Pont Haearn wedi ei ail-frandio’n Liberty Bridge. Mae tŵr sgwarog, hyll Zenith drws nesa iddo’n debycach i rai’r gwledydd comiwnyddol oedd y tu hwnt i’r Llen Haearn. Mae hyd yn oed y Docks Feeder yn cael ei ddisgrifio’n ‘gamlas’ â’i “canalside living” deniadol. Watshiwch chi, bydd Jones Street drws nesa iddi’n troi’n Venice Towers cyn hir. Cewch wneud fel a fynnoch, os ‘da chi’n ddatblygwr clyfar! Ac yn goron ar hyn gelwir y cwbl yn Capital Quarter – be fydd enw’r tri-chwarter arall, tybed?

Ond beicio yma wnes i weld un llecyn bach yr ochr draw i Tyndall Street. Yno mae Gardd Goffa Newtown yn tystio i ddycnwch criw o Wyddelod Cymreig i goffáu hanes ‘Little Ireland’ a chofio’u hachau.  Gardd a agorwyd yn 2005 – yno heddiw bron ar goll dan gysgod yr adeiladau tal, newydd.

Plethwaith o waliau isel o gerrig i gynrychioli’r tai diflanedig. Enwau’r teuluoedd a drigai yno’n gofnod ar wyneb y palmant. Ambell fainc garreg i gael eistedd arni i fyfyrio a chofio. A geiriau addas mewn tair iaith wedi’u naddu i gerrig camu’r grisiau.

Darn o’r awdl “Croeso mewn llys” gan Sypyn Cyfeiliog (Dafydd Bach ap Madog Wladaidd. c1340-1390) yw un dyfyniad. 

“Dyred pan fynnych, cymer a welych,   A gwedy delych, tra fynnych trig.”

Geiriau’r Cymro o Wyddel, yr Esgob Daniel Mullins adeg nodi 30 mlynedd ers cau Eglwys Sant Paul yw’r un arall

“Iad siúd nach gcuimhníonn ar a sinsir is gearr nach gcuimhneoidh siad ar cé hiad féin”

“Y sawl sy’n anghofio’i wreiddiau a anghofia’n fuan pwy ydyw”

Troiais am yn ôl a dilyn Smart Way, croesi’r Smart Bridge a’r meysydd parcio at y carchar gan adael J R Smart’s Capital Quarter.

Reidiais at fynwent Cathays. Ar ochr Allensbank mae mannau claddu’r Catholigion. Yno, heddiw, ar safle’r Eglwys Gatholig, a ddymchwelwyd yn yr 1980au mae cofeb a godwyd ac a ddadorchuddiwyd pum mlynedd ar hugain yn ôl, yn 1999.

Croes Geltaidd ydyw i gofio am y Gwyddelod hynny a fu farw yn eu miloedd adeg y Newyn Mawr, am y rhai a ymfudodd i bedwar ban byd, ond yn arbennig y rhai a ddaeth i Gymru ac i Gaerdydd. Er y croeso llugoer a gawsant bu iddynt ennill eu plwy a chyfrannu’n sylweddol i dŵf y lle. 

“Trostynt hwy y cododd eu disgynyddion y gofeb hon.”

Crafwch wyneb y ddinas a’i brodorion – mae ‘na wyrdd yng nghochni’r gwaed. Dydd Sul, Mawrth 17eg yw hi heddiw – Dydd Gŵyl Padrig Sant.

Beannachtaí na Féile Pádraig Ort

Cewch fwy o hanas Newtown yn fa’ma.

Cyhoeddwyd gan Yr Hen Ddeurodiwr

Yr Hen Ddeurodiwr Dŵad - Olwyn ap Gron, sef beiciwr bach diniwad yn dŵad nôl o dro i dro, i droedio, neu a deud y gwir, i ddeurodio hen lwybra a gweld be' 'di be' yn rhen Ga'rdydd 'ma, - ac ambell le arall.

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni