O Ben-y-waun i Ben-y-groes– ¡No pasarán!

18 Tachwedd – Caerdydd :

Heddiw dwi’n reidio trwy’r plethwaith strydoedd o resdai at ben draw’r Waun Ddyfal. Nelu am dŷ ar Pen-y-wain Road – rhif 77, sydd gyferbyn â’r eglwys. Dod yma i weld os oes plac glas ar flaen y tŷ erbyn hyn: plac er cof am un o drigolion enwog C’dydd a fu farw ar y dydd hwn yn 1939. Cefais fy siomi!

Yma roedd Archibald Dickson yn byw efo’i wraig a’u plant. Capten llong oedd Archibald. Bu farw, ynghyd ag ugain o’i gyd-forwyr pan suddwyd eu llong, yr S S Stanbrook gan long danfor Almaenig wrth groesi Môr y Gogledd. Roedd yn 47 oed ac wedi treulio’i yrfa o dros 30 mlynedd yn codi trwy rengoedd y Llynges Fasnach.

Mae’n bwysig i ni gofio am Gapten Dickson a’r Stanbrook. Rhaid chwilio am blac arall sy’n rhoi mwy o’r hanes. Reidio felly trwy’r dre ac i lawr i’r ‘Docks’ ar drywydd cofeb iddo.

Cyrraedd y Bae a draw at hen adeilad o frics cochion ac addurniadau terracotta cwmni J C Edwards, Rhiwabon. Dyma adeilad y Pierhead. Swyddfeydd a godwyd yn 1897 ar gyfer The Bute Dock Company, (a ddaeth yn fuan wedyn yn Cardiff Railway Company). Mae logo’r cwmni dal i’w weld y tu fewn a thu allan i’r adeilad – “Wrth ddŵr a thân”.

Canolfan wybodaeth ac addysg ar gyfer Senedd Cymru yw’r adeilad rwan.

Parcio’r beic yn ofalus ac yn ddiogel yn nerbynfa’r cyntedd – mae nhw’n bobl neis iawn ac am ei warchod, chwara teg. Dringo’r grisiau carreg crand sydd â theils lliwgar ar eu hochrau. Yn un o’r stafelloedd uwchlaw’r porth mae plac i gofio am Archibald Dickson. Plac a osodwyd yma yn ddiweddar ydyw ond un a gyflwynwyd i swyddogion dinas Caerdydd yn 2015 gan gymdeithas o bobl o Sbaen.

Yno, yn ninas Alicante, deil y cof yn fyw am ddewrder Capitán Archibald Dickson.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen rhwng 1936-1939 roedd llongau masnach yn dal i geisio mewnforio bwyd a nwyddau anghenrheidiol, (a nwyddau eraill, o bosib arfau) ac allforio cynnyrch y wlad trwy’r prif borthladdoedd, megis Barcelona, Bilbao, Alicante a Valencia. Ceisiodd lluoedd Franco rwystro’r masnachu hyn trwy ddefnyddio’u llongau rhyfel i’w hatal a chreu blocâd.

Ond llwyddodd nifer o longau masnach i sleifio i’r porthladdoedd â’u llwythi a dianc oddi yno â llwythi gwahanol. Fe suddwyd neu fe ddifrodwyd degau o longau a lladdwyd nifer o longwyr gan ymosodiadau gynnau o’r tir, llongau rhyfel ac awyrennau. Gydol y rhyfel roedd yr S S Stanbrook yn un o’r ‘Blockade runners’ hyn.

Roedd yn ddiwedd mis Mawrth 1939, ddyddiau cyn buddugoliaeth Cenedlaetholwyr Ffasgaidd y Cadfridog Franco ddechrau Ebrill a ddaeth â’r rhyfel i ben. Hwyliodd y Stanbrook liw nos i borthladd Alicante gan aros i lwytho nwyddau megis ffrwythau a thybaco. Yno roedd miloedd ar filoedd o Weriniaethwyr yn ceisio ffoi rhag y brwydro cyfagos. Penderfynodd y capten, Archibald Dickson, mai’r ffoaduriaid hyn oedd y llwyth pwysicaf. Cariodd dros 2,600 ohonynt ar ei long gorlawn o Alicante oriau cyn i’r ddinas gael ei bomio. Hwyliodd i Oran yng Ngogledd Affrica gan achub y cwbl.

Cymaint yw parch pobl y ddinas honno tuag ato am ei gamp a’i wrhydri fe osodwyd cofeb a phlac i’w goffáu ger yr harbwr yno yn 2014. Braidd yn bell i mi ddeurodio trwy Loegr, Ffrainc a Sbaen i weld y gofeb hon – un sydd yn wir deilwng ohono. Ond dwi wedi bod yno yn Alicante i’w weld (ar awyren!)

[llun – Alicantepedia]

Ond mae sawl darn arall i hanesion ‘Blockade runners’ y rhyfel arbennig hon, – a’r S S Stanbrook.

Ychydig fisoedd yn ôl mi es am swae ar y beic i fynwent Macpelah ym Mhen-y-groes, Gwynedd. Tra yno ar berwyl arall, mi welish, ymhlith y cannoedd o gerrig beddi, un arbennig a ddaliodd fy sylw. Tybed ai oherwydd i mi weld yr enw ‘Pencisley Rise, Victoria Park, Cardiff’ arni?

Noda’r ysgrifen ar y garreg stori drist am farwolaeth gwraig a merch fach Capten O Medwyn Jones. Roedd rhaid mynd ati i chwilota am ei hanes.

Bedd ym Macpelah

Capten llong oedd Owen Medwyn Jones â’i rieni’n hannu o Borthmadog. Cafodd ei eni yng nghyffiniau Caer ac yna byw ar lannau Gogledd Cymru. Ymunodd â’r Llynges Fasnach tua 1908 a chodi trwy’r rhengoedd gan ennill ei drwydded fel Meistr Llong yn 1920.

Gan mlynedd yn ôl y llu mawr hwn o longau ‘bychain’, neu longau ‘tramp’, dan law nifer o fân berchnogion llongau a chwmnïau cludo oedd asgwrn cefn masnach rhyngwladol. Gwe o fusnesau a symudiadau. Trefnu llong, llongwyr a llwyth … llwytho … cyrraedd porthladd arall … dadlwytho … codi llwyth gwahanol a’i gario i fan arall … dadlwytho … codi llwyth arall eto fyth … a dychwelyd adra.

Yng Nghymru roedd ardal Docks Caerdydd a phorthladdoedd eraill De Cymru yn llawn o fusnesau fel hyn. Roedd llawer o longau yn masnachu rhwng Prydain a Sbaen – yn allforio glo, metal a nwyddau o bob math o Gymru. Yna dychwelyd gyda llwythi fel ffrwythau a llysiau o Dde Sbaen a mwyn haearn o Ogledd Sbaen.

Byd o fynd a dod felly oedd byd Capten Owen Medwyn Jones. Roedd o hefyd rhwng 1936-1939 yn un o’r ‘Blockade runners’, fel nifer o’i gyd-gapteiniaid o Gymru. Cymaint oedd y sylw a’r adroddiadau newyddion am y ‘Blockade runners‘ hyn radag honno cafodd tri ohonynt, oll yn Jonesiaid, lysenwau:

S S Macgregor

Rhwng Ebrill a Mehefin 1937 roedd dinas a phorthladd Bilbao yng Ngwlad y Basg dan warchae llym gan luoedd Franco. Ciliodd miloedd ar filoedd o Weriniaethwyr a Basgwyr yno wrth i’r Ffasgwyr ennill tir yng Ngogledd Sbaen. Erbyn diwedd Ebrill roedd bwyd yn brin a’u bywydau mewn perygl.

Ymhlith y rhai a ddaeth â’u llongau i geisio torri ar y gwarchae roedd capten arall o Gymru. Capten William H Roberts o Benarth yn ei long Seven Seas Spray oedd y cyntaf i fentro. Llwyddodd i gludo cyflenwad o 4,000 tunnell o fwyd yno ar 19 Ebrill.

Mentrodd tri llong arall, yn cario dros 8,000 tunnell o fwyd, adael porthladd St Jean de Luz yn Ffrainc ar 22 Ebrill gan lwyddo i gyrraedd Bilbao – Y Macgregor, dan law Capten Owen Medwyn Jones; Hamsterley (llong o lannau’r Tyne dan law Capten Still); a’r Stanbrook (dan law Capten Prance o Sir Benfro). Rhwystrwyd y Sarastone rhag hwylio gan awdurdodau Ffrainc.

Yr hanes ym mhapurau’r cyfnod

Ddyddiau’n ddiweddarach, ar 26 Ebrill, ymosodwyd ar a dinistriwyd tref Gernika ger Bilbao gan awyrennau yr Almaen a’r Eidal.

Murlun yn Amgueddfa Gernika: llun o ymosodiad yr awyrennau ar 26 Ebrill 1937 uwch copi o lun enwog Pablo Picasso – ei ymateb i’r erchylldra.

Nid yn unig y llwyddodd y llongau i gario bwyd i Bilbao ond hefyd, chydig wythnosau’n ddiweddarach, helpu i gludo miloedd o ffoaduriaid Basgaidd o Santander a Gijon i dir diogel yn Ffrainc – a rhai o’r plant wedyn yn cael lloches yng Nghymru – yn Abertawe a Chasgwent. Wele bwt yn fa’ma am y math o ‘groeso’ y cawsant bryd hynny.

Gydol hyn oll roedd Llywodraeth Prydain yn annog y llongau i beidio a thorri’r blocâd, rhag pechu Franco a’i gynghreiriaid. Ei nod oedd peidio ag ymyrryd a cheisio bod yn niwtral. Mae llywaeth, llipa, llwfr ac annynol yn well disgrifiad, dybia i!

Heddiw yn ôl Llywodraeth Prydain nid oes croeso i ffoaduriaid. “Stop the boats” yw’r gri orffwyll hyd at syrffed. A chânt fawr o help i geisio dianc rhag rhyfel chwaith. Llawer gwell gan Brydain allforio arfau na mewnforio pobl.

Mae ambell ddinas ym Mhrydain wedi cofnodi hanes y llongau a oedd yn mynd a dod o’u porthladdoedd gan barhau i fasnachu a thorri’r blocâd. Yn eu plith Newcastle a Glasgow, ac yn fwy diweddar Abertawe. Da gweld bod cofeb yn Glasgow ers Mawrth 2019 – wedi ei godi trwy ysgogiad a chefnogaeth undeb llafur yr RMT – National Union of Rail, Maritime and Transport Workers.

Cofeb i’r ‘Blockade runners’ yn Glasgow

Tybed a ddylai Caerdydd wneud mwy o lawer o’r llu hanesion am fywyd y Docks a’r gwahanol gysylltiadau morwrol hyn? Ond dyna fo, mi gafodd y ddinas wared ar yr Amgueddfa Diwydiant a Môr (a hannar Butetown) yn yr 1990au i wneud lle i’r ‘Bae’ – lle chwarae â’i lwyth o fariau, bwytai a chaffis sydd erbyn hyn yn prysur ddangos ôl y gwynt a’r glaw a’r heli.

A dwi’n dal ar drywydd mwy o wybodaeth am Capten Owen Medwyn Jones. Fedrwch chi helpu, tybad? Bu farw ddechrau Chwefror 1975 yn Ysbyty Dewi Sant a chafodd ei gorff ei amlosgi yn Amlosgfa Bangor. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yng Nghricieth.

Na, does na’m plac glas ar wal Tŷ Clyd, ei dŷ yno chwaith. Mae yntau hefyd yn haeddu un.

[llun – Ruiz Morales – 1936]

Cyhoeddwyd gan Yr Hen Ddeurodiwr

Yr Hen Ddeurodiwr Dŵad - Olwyn ap Gron, sef beiciwr bach diniwad yn dŵad nôl o dro i dro, i droedio, neu a deud y gwir, i ddeurodio hen lwybra a gweld be' 'di be' yn rhen Ga'rdydd 'ma, - ac ambell le arall.

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni