Fy arwr o ddeurodiwr

28 Mehefin 2024 :

Ew, dwi ‘di cyffroi! Fel’ma ydw i bob blwyddyn wrth i ras feicio’r Tour de France nesáu.

Gwirio bod popeth yn barod: cylchgrawn swyddogol drudfawr Le Tour wedi ei brynu a’i ddarllan; dewis pa gymalau i’w gwylio’n fyw (ar y soffa); recordio rhaglenni’r pigion dyddiol; dethol pa grysau-t i’w gwisgo ar ba ddyddia; shafio nghoesa a rhwbio oel Morus Ifan arnynt; gosod stêcsan amrwd yng ngafl fy siorts, fel stalwm, er mwyn osgoi clwy’r marchogion a hen bothelli poenus ar fy nhîn!

Wrth wneud mae cerddoriaeth agoriadol rhaglenni Channel 4 ddiwedd yr 1980au yn troi a throi yn fy mhen – tôn a gyfansoddwyd gan Pete Shelley o’r Buzzcocks yn 1987 – y flwyddyn pan welish i Stephen Roche yn reidio drwy’r Alpau tuag at ei fuddugoliaeth – roeddwn i yno!

Ysu i glywad lleisiau cyfarwydd y sylwebwyr: Phil Liggett (80 oed a dros 50 TdF), Ned Boulting, a Gary Imlach yn dilyn pob dringfa, goriwaered a gwib. Beicwyr yn rhannu o’u profiad: Chris Boardman, David Millar, – a sain Kerdiff llais Luke Rowe craff, difyr a doniol yn eu plith, gobeithio, yn egluro ‘Watts Occurring’ yn y ras.

Ond lleisiau newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn ers sawl blwyddyn gyda darllediadau ardderchog S4C Seiclo – Rhodri, Wyn, Gareth, Dewi a Gruff a mwy yn profi bod y Gymraeg a deurodio yn gweddu i’w gilydd i’r dim. A braf gweld bod Cymro Cymraeg o feiciwr, yr ail erioed, sef Stevie Williams yn rasio’r TdF eleni. Hei lwc iddo – ati i ennill cymal!

Uffar o job di trefnu popeth – yn wylio cymalau, cip ar y pigion, dilyn y trydar, dal ambell bodlediad, darllan LÉquipe, (heb sôn am hŵfro, garddio, golchi llestri, a mynd â’r ci am dro) ………… Fasa’n haws taswn i’n reidio yng nghanol y peloton, ma’shwr.

Ac yno yn ei 13eg Tour de France y bydd Geraint. Cofio’n glir chwifio’r Ddraig Goch ar ochr y lôn wrth iddo ddringo yn y Pyreneau – ei ddyddiau Barloworld, yn 2007. Fo oedd y fengaf yn y ras, a’r olaf ond un rôl ei chwblhau. Ar i fyny fuo hi iddo fo wedyn (er bod amball dro trwstan!). Mae o’n 38 oed – bydd o bron a bod yn ‘hen ddeurodiwr’, chwap! Yno i gynnig ei brofiad fel ‘patron’ y ras y mae o, ond cofiwch iddo fod yn y tri uchaf yn Giro d’Italia 2023 a 2024.

Arwr o feiciwr yw Geraint. Wele rhyw bwt bach sgwennish i amdano, ac ambell arwr arall, ddechrau Awst 2018 wedi ei gamp fawr, sef ennill y TdF (am y tro cynta!).

Y byddugwr ar y llwyfan ar y Champs-Élysées

Do, mi fues i yno, ar fy meic, yn gwisgo ‘ngrys-t melyn â’i neges “Go Geraint”.  Bu’r diwedd pnawn Iau hwnnw yn ystod wsnos y Steddfod yn wefr bur.  Braint oedd cael sefyll ar risiau’r Senedd ymhlith y miloedd i ganu’n hanthem ac i longyfarch pencampwr beicio ac arwr o Gymro.  Bydd yn aelod o Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru chwap! – cyn i chi allu dweud “crevaison” (pynctsiar ‘di hwnnw yn Ffrangeg)

Gwych oedd gwylio’r teledu’r pnawn Sul hwnnw pan feiciodd Geraint a Luke, y ddau Maindy Flyer gynt, i ganol Paris â’r Ddraig Goch yn cyhwfan yn amlwg y tu cefn iddynt.  Ac yna’r un faner ar ysgwyddau’r buddugwr, y Cymro balch, ar y llwyfan yng nghysgod yr Arc de Triomphe.   “I can’t believe it, I’ve won the Tour, man.” meddai’r arwr yn syn.   “Chapeau, le Gallois.” ebe’r Ffrancwyr.   “British cyclist Jyrr-EINT Thomas wins Tour de France” ebe’r BBC.

Geraint Thomas a Luke Rowe yn dathlu. [llun: bbc.co.uk]

Slefiais o faes y Steddfod a thua’r dre cyn iddo reidio’i feic gyda’i ddilynwyr ar hyd Heol Eglwys Fair at ei groeso o flaen y castell.  Mynd, nid i achub y blaen arno, ond am mod i ar drywydd arall.

Doedd neb yno pan gyrhaeddish i, ond roedd y giât yn gil agorad.  Felly, mentrais drwyddi a dechra reidio ar goncrit llyfn yr hirgylch.  Ar y cylch cyntaf, codi sbîd a chodi i frig y llethra naill ben i’r trac er mwyn cyflymu.  Hwylio reidio’r ail gylch ac yna’r trydydd, cyn arafu (wedi diffygio). 

Whatcherdoointheremate?” bloeddiodd rhyw foi arna i.  Ges i’n nhemtio i atab, “Don’t you recognise me in my yellow jersey?“.  Ond digon oedd dweud wrth i mi feicio heibio iddo, “‘Mond dilyn fy mreuddwydion”, rôl reidio trac y Maendy am y tro cyntaf ers dros hannar can mlynadd.

Hen Gloddfa Glai’r Maendy – “Maindy Pool”

Cloddfa glai fawr oedd yno dros ganrif yn ôl yn cyflenwi’r deunydd crai i’r gwaith brics gerllaw.  Yna fe’i gadawyd yn bwll dŵr agorad, peryglus a budr.  Mhen amsar, fel rhan o gynllun creu gwaith yn Nirwasgiad y 1920au a’r 30au, arllwyswyd wageneidiau o rwbel iddo i’w raddol lenwi.  Wedyn, ar ddechrau’r 1950au adeiladwyd trac rhedeg yno gyda chae o’i fewn a’r trac beicio o’i amgylch.  Defnyddiwyd meini a godwyd wrth glirio a chau hen Gamlas Morgannwg gerllaw fel mannau sefyll ac eistedd ar dair ochr iddo.  Alwodd neb o’n Vélodrome, am wn i – Maindy Stadium fuodd o erioed.

Ond roedd rasio beiciau wedi bod yn boblogaidd yng Nghaerdydd ers dyddiau’r beic peni-ffarddin ac yna’r “safety bicycle” yn yr 1880au.  Cynhaliwyd cystadlaethau beicio ar ffyrdd garw’r cyfnod neu ar draciau graean.  Ffurfiwyd clybiau megis Cardiff Jockeys, Canton Wheelers, Penarth Crawlers a’r Cardiff Harlequins Athletic and Cycling Club i drefnu’r gweithgareddau – y teithiau pleser, a’r rasus 50 a 100 milltir, neu’r “rhedegfeydd”, yn ôl iaith newydd “deurodwyr” neu “rhedegyddion y ceffyl haiarn”, neu “olwynwyr” y cyfnod

Felly, i ffwrdd â fi o’r Maendy ar fy “olwyneg”, fel “olwynwr” o’r 1890au, heibio’r barics at y Crwys Bychan, i lawr Heol y Crwys at y Plwca Halog, sef cyffordd fawr “Death Junction”.  Dilyn Heol y Plwca am blwc wedyn – City Road yw’r enw mwy cyfarwydd heddiw:  stryd liwgar yn llawn tai bwyta bwyd-o-bobman.  Reidio yng nghwmni’r traffig trwm nes cyrraedd Y Groes Hir.  Yno, troi i’r chwith ar y lôn brysurach fyth sy’n arwain at Gasnewydd.  Yn wreiddiol Roath Road oedd hon – y lôn i ganol plwy a phentref y Rhâth. 

Rôl cyrraedd y Royal Oak, troi i’r chwith a reidio’r stryd ochr at gaeau chwarae St. Peters – “The Harlequins Ground”.  Roeddwn yno i gydnabod llwyddiant deurodiwr arall o Gymro.  Yno yn 1892 y lesiwyd tir oddi ar yr Arglwydd Tredegar gan y Cardiff Harlequins a chodwyd trac rasio beiciau – hirgylch chwarter milltir o raean llyfn â llethrau naill ben, y cyntaf o’i fath yng Nghymru. 

o’r Evening Express, Mehefin 1892

Bu sêr y cyfnod yn rasio yno.  Yn eu plith roedd criw o gyffiniau Aberdâr, y Brodyr Linton, – Arthur, Sam a Tom, a Jimmy Michael – y ‘little wonder’, 5 troedfedd a modfedd, a 7 stôn a hanner.  Disgrifiwyd nhw ym mhapurau’r cyfnod fel English cyclists.  Er i Arthur Linton gael ei eni’n Lloegr, pan oedd yn dair oed daeth y teulu i fyw i Aberaman, Cwm Cynon.  Ystyriai ei hun yn Gymro i’r carn. 

Arthur Linton, Jimmy Michael a Tom Linton gyda’u rheolwr a hyfforddwr, “Choppy” Warburton

Dan law rheolwr cyfrwys o’r enw “Choppy” Warburton daethant yn feicwyr proffesiynol gan reidio ar feiciau Gladiator, cwmni beiciau o Ffrainc.  Roeddent yn rasio ar draciau fel Herne Hill yn Llundain a’r Vélodrome Buffalo ym Mharis gan herio eraill, torri recordiau a gwneud arian.  Ym Mai 1893 ar drac Roath Road torrodd Arthur record byd ar gyfer reidio’r awr, sef pellter o dros 23 milltir.  Ym Mharis yn 1894 gosododd record 50 milltir newydd o 1 awr, 58 munud a 59 eiliad, gan fynd ymlaen i dorri’r record am y 100km yn yr un ras.  Fe’i galwyd yn ‘Champion Cyclist of the World’.  

Jimmy Michael, Morgan Thomas ac Arthur Linton ar feic triplet

Radag honno, gan amlaf, roedd y beicwyr yn cael eu tywys ar y trac gan griwiau o ‘pace-makers’ – cynorthwy-wyr yn reidio tandem, neu triplets neu quads o’u blaenau i’w llusgo ymlaen neu eu hannog i fynd cyn gyflymed â phosib.  Torrodd Arthur, Tom a Jimmy lu o recordiau yn ystod eu cyfnodau llwyddiannus mewn rasus o gilometr neu filltir hyd at rhai 100 milltir, neu rasus awr hyd at rhai 12 awr.  Roedd ‘na dipyn o ‘gythral beicio’ rhyngddynt. 

Dyma’r cyfnod hefyd pan daeth rasus undydd pellter hir ar lonydd yn boblogaidd, megis Liège-Bastogne-Liège, Paris-Brest-Paris, a ras enwog Paris-Roubaix.  Cipiodd Arthur y pedwerydd safle yn rhediad cynta’r ras honno yn 1896.

Arthur Linton, mewn crys glas a du y Cardiff Harlequins. (Fel y gwelwch rwyf wedi modelu fy hun arno!)

Yn 1896 bu farw Arthur adre’n Aberdâr yn 27 oed, yn swyddogol o afiechyd a’i tarodd wedi iddo orflino a diffygio wrth ennill ras feicio Bordeaux-Paris.  Ond roedd byd rasio’r cyfnod yn frith o straeon am ochr dywyll beicio – yn union fel heddiw.  Nid yw Arthur yn aelod o Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru, ond braf yw cael darllen y deyrnged hon, yn y Wenhwyseg, ym mhapur “Tarian y Gweithiwr” wedi ei farwolaeth – teyrnged i bencampwr beicio a Chymro balch arall.

Adroddiad o ‘Tarian y Gweithiwr’, 20.08.1896

[Ymddangosodd yr erthygl wreiddiol yn “Y Dinesydd” ym mis Hydref 2018.]

Geraint – Cymro balch sydd wedi cyfrannu cymaint at “godi’r hen wlad yn ei hôl”

Cyhoeddwyd gan Yr Hen Ddeurodiwr

Yr Hen Ddeurodiwr Dŵad - Olwyn ap Gron, sef beiciwr bach diniwad yn dŵad nôl o dro i dro, i droedio, neu a deud y gwir, i ddeurodio hen lwybra a gweld be' 'di be' yn rhen Ga'rdydd 'ma, - ac ambell le arall.

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni