Am wast o siwrna!

Os ‘da chi ‘di picio heibio’i thŷ ar Pearl Street yn ddiweddar mae’n siwr i chi gyffroi’n arw o weld bod Brenhines y Sblot wedi addurno’i wal unwaith eto.

Ond a deud y gwir, rhywrai eraill sy’ ‘di cael rhwydd hynt ganddi i baentio ei ‘chynfas’. Tybed pwy?

Tydi o ddim mor lliwgar ag arfer, chwaith. Mae o fatha rhwbath o hen ffilm, neu raglenni teledu’r 60au – i’r rhai ohonom sy’ ddigon hen i gofio rheiny. Mae hynny oherwydd mai du a gwyn ydi’r llun. Ac mae’r mater y cyfeiria ato yn ddu neu’n wyn i lawer o bobl, hefyd.

Yn addas iawn, mae’r murlun a’i neges yn digwydd wynebu’r de – at rannau deheuol arfordir yr East Moors yn nyfnderoedd tywyll y Sblot.

Dewch am dro, un bach lleol wrth gwrs. Deurodio dow dow o’r Bae a’r Senedd a Neuadd y Sir gan ddilyn yr arfordir tua’r dwyrain.

Cawn droi ein cefnau ar y canol â’i Castle Quarter, Capital Quarter, Morgan’s Quarter, Creative Quarter, Canal Quarter, Kingfisher Quarter, a’r Brewery Quarter. Symud o olwg y Bay a’i Mermaid Quay, Central Quay, Adventurer’s Quay, a Britannia Quay.

Mentro ar hyd ‘llwybr beicio’ yr Eastern Bay Link a Rover Way, sy’n dilyn y glannau at Pengam Green. Yna, reidio ymhellach dros wastadeddau Gwynllwg at derfyn dwyreiniol tir y ddinas.

Rheitiach bod ‘na wal drympaidd ac arwydd ar y ffin yn fan’no’n deud “STOP. Keep out! This is the ‘Port!” Mae Caerdydd yn hoffi ehangu ac ymestyn at ei hymylon, a thu hwnt iddynt ….. ac adeiladu ar bob blewyn o dir glas!

Falla fydda nhw ‘di cyrraedd fa’ma cyn hir … neu Pagnell …. neu Rhode Island …neu un o’r 52 Newport arall sy’n y byd.

“Shwt ardal yw hon? So i eriod ‘di bod ‘na!”, hola rhywun sy’n dod o glydwch yr Eglwys Newydd.

Dyma waelodion budr C’dydd. Dyma’i pherfedd go iawn – dyma dwll tîn y ddinas.

I fa’ma y daw ei gwastraff – carthion a dŵr budr y ddinas a’i chyffiniau. I fa’ma y daw ei sbwriel – llond ein biniau a’n bagiau i’w trin ac i’w hailgylchu. I fa’ma y daw’r sborion – y bwydiach na fwytawyd. Fa’ma y cesglir gweddillion hen nwyddau metel – y manion ddarnau metel sgrap.

A fa’ma y rhoddwyd y gwehilion o boblach – y teithwyr a’u gwersyll parhaol,

Maent oll yma yng nghanol blerwch, sŵn, mŵg, ac arolgeuon yr ardal lygredig hon wrth i G’dydd feddiannu ac adeiladu ar y gwlypdiroedd isel hyn, a’u difetha!

O’r holl ‘quarters‘ gwahanol sy’n tyfu fel grawn unnos ledled Caerdydd, dyma’r un lleiaf deniadol. Chlywch chi fawr o sôn am yr ardal ar y cyfrygau, heblaw am y brolio-er-mwyn-gwerthu’r-syniad gan rhyw gynllunwyr bach di-ddychymyg:-

Let’s call it ‘Enviro Quarter”, ……. or how about ‘Energy Quarter’. ……. Or better still, ‘Green Quarter’”.

Mae’n debycach i Trash Quarter; Scrap Quarter; Crap Quarter. Efallai nad yw’r ardal mor lygredig mewn rhai ffyrdd ag oedd rhannau ohoni gan mlynedd yn ôl, ond mae’n ddigon budr a blêr. Ychwanega trafnidiaeth trwm y llu lorïau sy’n cario’r holl ddeunydd ar briffordd gul, anaddas yr A4232 at hyn.

Cofia wisgo dy fwgwd!

Ffwrdd â ni ar y daith, felly.

Codi’n gyntaf i frig pontffordd Ewart Parkinson. Oddi yno syllu ar y deml grand, sgleiniog, siapus, – fel rhyw Guggenheim newydd. Ei hallorau tân yn wenfflam dan bwn yr ebyrth beunyddiol. Dyma gyrchfan cynnwys eich biniau duon a’ch bagiau duon – i’w losgi. A thros gyfnod anodd y flwyddyn ddiwethaf yma y daeth llawer o gynnwys ail-gylchadwy eich bagiau gwyrddion – hefyd i’w losgi. Mŵg a llwch-tân unwaith eto’n chwydu dros East Moors a thai’r Sblot a Thremorfa – y tro ‘ma o simnai fain llosgydd Viridor.

‘Waste Management and Energy Recovery Facility’ yw’r enw crand ar y math hwn o losgydd.

Lle mae’r briffordd yn culhau a’r llwybr beicio’n diflannu, ger ceg Tidefields Road, mae gwaith trin gwastraff Dŵr Cymru – dŵr budr y miliwn o drigolion sy’n y cylch. Puro’r dŵr i’w ail-ddefnyddio neu i’w ollwng i’r môr; trin y carthion a’u troi’n wrtaith i’w werthu.

Yma hefyd daw cynnwys eich biniau-bach-dal-bwyd-wast. Caiff y cwbl ei fadru i greu nwyon i’w llosgi i greu trydan.

Llwybr Arfordir Cymru yn pasio’r gwaith trin carthion, ac un o’r iardiau malu ceir ger traeth y Sblot – am olygfa; am ogla.

Gerllaw mae’r iardiau malurio cerbydau a pheiriannau. Torri’r darnau metel yn siwrwd mân a’u pentyrru’n barod i’w harllwys i grombil ffwrneisi chwilboeth Celsa sydd dros y lôn. Toddi hen fetel yw’n dull o greu ein dur newydd heddiw, – yma yn y gwaith mawr hwn sydd am y ffens ag Ysgol Uwchradd Willows.

Gwaith Celsa UK yn Nhremorfa – toddi’r sgrap i greu dur mewn ffwrneisi arc trydan. [llun: Colin Smith (cc-by-sa/2.0) via Geograph]

Cyn hir, bydd y tir agorad sydd drws nesa, â’i draciau moto-cross, wedi’i droi’n Parc Calon Gwyrdd (sic), – am enw!

The power station will be a cornerstone for the production of green energy and be the heart of a proposed ‘green quarter’ for Cardiff — supplying both electric and thermal energy for future developments”.

Llosgydd arall, y tro hwn i losgi 75,000 tunnell o goed bob blwyddyn i gynhyrchu gwres a thrydan – a 7,500 tunnell o ludw. Ond coed o ble? O Latfia, ar longau; yna ar lorïau o Lerpwl a Felixtowe. Tipyn o ôl troed carbon, dybia i. ….. A mwy o fŵg dros Pengam Green! (Neu ai Green Pengam Green, ….neu Pengam not so Green……..?)

Y llosgydd bio-màs, yr orsaf bŵer a gwres, a’r unedau gwaith ‘cynnes’. Y diweddaraf o’r South Wales Echo 28.01.2021

Oni chawsom ein cynghori i beidio llosgi coed mewn stôf yn tŷ ‘cw?

Ar ben pellaf Rover Way, cyn i’r ffordd droi tua Pengam Green, mae Gwersyll y Teithwyr. Yr ‘ysgymun rai’ rochr draw i’r Sblot, yn ddigon pell o Landaf, Cyncoed a Phontcanna – ac yn ddigon agos i’r baw a’r sŵn a’r mŵg. Ond y newyddion da yw bod bwriad i symud y gwersyll oddi yno – ai osod ger Seawall Road ar ochr arall y ffordd fawr! Fydd hi’n haws iddyn nhw biciad i Tesco Extra i siopa.

Gwersyll Teithwyr ar Rover Way, a threm dros aber afon Rhymni at safle tirlenwi’r Lamby

Mae ‘na luniau ar furiau eraill yn y Sblot. Ond pam yr holl gwyno yw cwestiwn rhai?

Na, nid hysbysebu côr Cymraeg diweddaraf C’dydd y mae’r CF3 ar yr ochr dde, – cyn i chi ddechra garglo, cynhesu’ch tonsils, udo-canu sgêls, a ffonio er mwyn cael clyweliad. Dyma’r côd post ar gyfer Dwyrain Caerdydd.

Felly ymlaen â ni ar ein taith, i Ec-Ef-Tri

Gadael Rover Way a chroesi afon Rhymni ar hyd Lamby Way. Tiroedd Lamby Vawr a Lamby Vach – Monmouthshire (England) unwaith, cyn i G’dydd dyfu a’u llyncu – a mwy.

Cyn rhoi stop ar y tirlenwi, Y Lamby oedd toman byd olaf y ddinas (‘dymp’ ‘di hwnnw, i chi bobl y Sowth). Does na’m llawer o’i ôl yno rwan, heblaw’r sgipiau i chi daflu’ch geriach di-angen i’w gwaelodion. Ond pery’r hen ogla sur a llychlyd i’n hatgoffa o hanes y lle – yr ogla a’r llwch gynt a chwythai’n drwch dros Dredelerch.

Chwap mi fydd y tir yn barod ar gyfer mwy o weithdai a warysau, neu efallai stad o dai moethus – ‘Estuary Mud View’. Gobeithio y cadwan nhw’r graffiti cyfoes sydd ar groen y tir fel bo’r llu gwylanod yn dal i’w weld wrth hedfan drosto.

Graffiti’r Lamby. Mae modd gweld mwy wrth ddrôn-rodio!

Pasio heibio’r Capital Busnes Park a warws fawr Aldi ac at lan ffos (‘reen’) y Rhosog Fawr. Lled cae oddi yno mae’r merlod ar ben tennyn sy’n pori ymylon y lôn a chanol y gylchfan yn arwydd bod ail wersyll teithwyr C’dydd gerllaw.

Gyferbyn mae’r stadau â’u blychau storio; iardiau malurio ceir; gaeafgysgfannau carafanau; a mwy o lefydd i ddympio ‘nialwch i godi lefel y tir isel hwn. Creu tiroedd newydd – ond i ba ddiben?

Troi tua’r rheilffordd ar hyd Newlands Road sy’n arwain at ddepo Freightliner. Yno, ger ceg y lôn, lle roedd ffermdy Trowbridge Bach, fe wariodd LlywCym yn helaeth i godi homar o adeilad a’i addasu i greu Hollywood newydd, sef Seren Stiwdios ap Pinewood. Ia, dyna chi, y lle ‘na gydag unig felin wynt go iawn Caerdydd o’i flaen.

Ond ar y safle drws nesa bwriada Môr Hafren Bio-Power wario £150m i adeiladu llosgydd arall. Bydd yn llosgi 200,000 tunnell o wast masnachol bob blwyddyn i gynhyrchu trydan. Dyna 40 llond lori bob diwrnod, (heblaw’r Sul, chwara teg), a’r llosgydd wrthi ddydd a nos.

O leiaf bydd ei faint a’i addurn lliwgar yn esgus i ddisgyblion yr Eastern High School gerllaw edrych trwy’r ffenest yn ystod eu gwersi, – a cheisio gweld y Môr Hafren go iawn rochr draw iddo – trwy’r mwrllwch.

* * * * * * * * * *

‘Toes na’m mŵg heb dân’, ebe un dywediad. ‘Lle chwytha’r gwynt’, medd un arall.

Er yr hidlo effeithiol honedig a fydd ym mhob simnai, cofied pawb mai o’r de-orllewin y chwytha’r gwyntoedd gan fynychaf yng Nghymru, a rheiny’n aml yn gryfion. Pa effaith gaiff hynny, tybed?

A fydd ardal St Mellon’s (nid yr Old St Mellon’s wrth gwrs!), sef Llaneirwg yn troi yn Llanllawnmŵg?

Ger Llyn Parc Hendre – llyn gwneud a greuwyd o ddyfroedd ffosydd hynafol y Pil du a’r Faendref, mae cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu canolfan fusnes a siopau a gorsaf drenau. A fydd y Cardiff Parkway hwn yn troi’n Cardiff Darkway anneniadol?

A gwae nhw os bydd y mŵg yn difetha hwyl golffwyr y St Mellon’s Golf Club a gwesteion y St Mellon’s Country Club yn Llwynarthan, Cas-bach.

Gallwch gadw llygad ar y peryglon trwy gyrchu gwefan Plume Plotter, a’i chyfrif trydar, sy’n tynnu sylw at losgyddion ledled y Deyrnas Gyfunol. Wele enghraifft leol.

A ydy’ch awyr iach chi a’ch plant yn cael ei lygru?

 ninnau yng Nghymru mor barod i frolio ein cyfraddau ail-gylchu clodwiw, a ydym yn ystyried pa mor ‘wyrdd’ yw hyn oll, mewn gwirionedd? Nid du a gwyn, fel y murlun, yw’r mater hwn. Mae ‘na begynu barn. Efallai mai rhwla yn y llwyd sydd rhyngddynt y mae’r ateb. …… Llwyd, fel y mŵg o’r simneiau.

Tybed ai creu llai o ddeunyddiau i sicrhau llai o wastraff yw’r atab? Onid ‘Arbed, Ailddefnyddio, Ailgylchu’ yn y drefn honno, yw’r mantra a ddysgwn i’n plant?

Pob hwyl i Arweinydd Cyngor C’dydd wrth iddo geisio cadw’r badall hon yn wastad. Rhyw foi newydd sy di dwad o Rwsia neu rwla felly ydi o, yn ôl y sôn, – Huw Watchaloski.

Yr hawl i awyr iach

Ond hidiwch befo, chi bobl C’dydd sy’n poeni am hyn oll. Erbyn 2040 wrth i lefel y môr godi bydd y safleoedd hyn oll dan y don – ar wahân i gopa Mount Lamby, yno fel ynys unig.

Ia, am wast o siwrna – ond nid siwrna seithug mohoni.

Cyhoeddwyd gan Yr Hen Ddeurodiwr

Yr Hen Ddeurodiwr Dŵad - Olwyn ap Gron, sef beiciwr bach diniwad yn dŵad nôl o dro i dro, i droedio, neu a deud y gwir, i ddeurodio hen lwybra a gweld be' 'di be' yn rhen Ga'rdydd 'ma, - ac ambell le arall.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website with WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: